![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/14/2024/11/llen-a-chan-308x266.jpg?0)
Dewch i fwynhau Noson Llen a Chân 2024 a drefnwyd gan fyfyrwyr Cymraeg Proffesiynol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Noson ddifyr gyda sesiynau holi ac ateb gyda’r llenorion Pryderi Gwyn Jones a Rolant Tomos. Dyma gyfle i glywed am eu nofelau newydd, Hei Fidel! a Meirw Byw. Bydd perfformiadau cerddorol gan Worldwide Welshman ac aelodau twmpdaith, yn ogystal â lluniaeth ysgafn.