Sioe theatr fyw sy’n ail-ddychmygu stori Ariarnhod o’r Mabinogi.
Dyma gynhyrchiad theatr bwerus am hedoniaeth, brad, trais anesboniadwy a storm oruwchnaturiol sy’n suddo Caer Arianrhod a’i phobl i waelod y môr.
Mil o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae ei ddisgynyddion Arianrhod yn dal i fyw mewn ofn o dan y môr – tan rŵan…
Rhagddangosiad: Nos Wener 20 Medi a nos Sadwrn 21 Medi, 7.30pm
Perfformiadau gyda’r nos: Nos Fawrth 24, nos Fercher 25 a nos Iau 26 Medi, 7.30pm
Perfformiad prynhawn: Dydd Sadwrn 28 Medi, 2pm