Mae Seckou Keita yn chwaraewr penigamp ac enwog offeryn llinynnol y Kora ac mae’n uchel ei barch ymhlith cerddorion traddodiadol Affricanaidd. Daw o Dde Senegal yn wreiddiol, ac mae ei daith o fod yn blentyn dawnus i fod yn gerddor a gydnabyddir yn fyd-eang wedi bod yn ddim llai na rhyfeddol. Galwyd Seckou yn “Hendrix y Kora”, ac mae ei ddull arloesol a sgil eithriadol yn gwthio’n gyson ffiniau’r hyn y gall yr offeryn ei gyflawni. Gyda disgograffeg yn cynnwys 14 o albymau sydd wedi cael canmoliaeth y beirniaid, dros 25 miliwn o ffrydiau ar Spotify yn unig, a chasgliad o wobrau mawreddog, gan gynnwys nifer o Wobrau Gwerin BBC Radio 2, mae bob amser yn gadael ei ôl yn ddigamsyniol ar y sin gerddoriaeth.