Sgwrs Bür Aeth #3 ‘Atgofion Eurof Williams o sin roc Cymru yn y1970au’

14:00, 8 Mehefin

Fel rhan o gyfres brosiect llafar Bür Aeth, cawn drafod a hel atgofion gyda thri o arloeswyr sin cerddoriaeth gyfoes Cymru. Bydd y sgwrs olaf yn y gyfres yn ymwneud hefo’r cerddor, cynhyrchydd a rheolwr bandiau Eurof Williams . Dowch i wario’r pnawn yn gwrando ar atgofion Eurof wrth iddo drafod dyddiau cynnar sin roc Cymraeg. Cynhyrchu a chyd sefydlu’r label Gwawr hefo Tony ac Aloma , cynhyrchu sioeau radio’r BBC , goruchwylio record Lleisiau gan fudiad Adfer . Rheoli’r Band y  Trwynau Coch a mwy.

Am fwy o wybodaeth ewch i Hafan – Storiel (Cymru) 

Arianwyd y sgwrs yna drwy gronfa Ffyniant Bro