CWRS THEATR TECHNEGOL AM DDIM YN ARAD GOCH I BOBL O OEDRANNAU 14-25!

09:30, 21 Awst – 16:30, 22 Awst

Am ddim

Ar yr 20fed a 21ain o Awst bydd Cwrs Theatr Technegol yn cael ei redeg yng Nghanolfan Arad Goch yn Stryd Y Baddon, Aberystwyth, lle bydd cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan yn cael dysgu am y byd theatr sy’n bodoli oddi ar y llwyfan!

Ar ddiwrnod cyntaf y cwrs bydd gweithdai ar SAIN, GOLEUO a RHEOLI LLWYFAN yn cael eu rhedeg gan arbenigwyr proffesiynol sydd gyda blynyddoedd o brofiad yn y maes. Ar yr ail ddiwrnod caiff y rheini sy’n cymryd rhan gyfle i arbrofi eu sgiliau gyda diwrnod cyfan o waith ymarferol, ble byddant yn adeiladu set eu hunain ac yn defnyddio ein hoffer a phropiau o’n storfa yng Nglan yr Afon.

Byddant hefyd yn cael blas ar elfennau eraill megis gosod ciwiau er mwyn goleuo, a rheoli a darparu sŵn a cherddoriaeth ar gyfer y gwaith. Drwy wneud hyn cewch wir flas ar fod yn dechnegydd neu rheolwr llwyfan!

Felly os ‘da chi ffansi eistedd yn y tech box yn goleuo’r llwyfan, darparu sain a cherddoriaeth ac effeithiau sain ar gyfer sioe, neu reoli llwyfan pam na wnewch chi ymuno â ni? Efallai mai chi fydd technegwyr y dyfodol!

Mae’r cwrs yma yn cael ei ariannu gan arian grant Prosiect ARFOR. Prif ffocws y prosiect hwn yw i ddelio gyda problem sydd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sef diffyg cyfleoedd technegol i bobl ifanc, a’r prinder dybryd o dechnegwyr Cymraeg eu hiaith sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, yn enwedig yng Ngheredigion. Hyd yn oed gyda chyrsiau drama mewn ysgolion does gan y rhan fwyaf o athrawon ddim profiad na gwybodaeth ymarferol o’r gwaith technegol arbenigol i’w drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.

Yn arwain y cwrs yma mae gennym dri arbenigwyr allanol sydd wedi gweithio gyda’r cwmni yn flaenorol yn dod i fewn i’n helpu yma yn Arad Goch sef:

· Angharad Davies, rheolwr Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Bydd Angharad yn rhedeg y gweithdai Rheoli Llwyfan, a gyda blynyddoedd o brofiad yn rhedeg sioeau theatr o amgylch y wlad yn cynnwys efo Theatr Genedlaethol Cymru, pwy well i arwain Rheolwyr Llwyfan y dyfodol?

· Elanor Higgins: Yn arwain y gweithdai golau mai Elanor Higgins. Mae gan Elanor ddegawdau o brofiad yn y maes, dros y blynyddoedd mae hi wedi gweithio fel goleuydd i Opera Cenedlaethol Cymru ag i’r Royal National Theatre. Mae ei gwaith wedi’i mynd a hi i lefydd fel Stadiwm y Mileniwm yn Gaerdydd a’r holl ffordd i ochr arall y byd yn Nhŷ Opera Sydney!

· Chris Stewart: Yn arwain y gweithdai Sain mae Chris Stewart, prif dechnegydd Prifysgol Aberystwyth. Mae gan Chris flynyddoedd o brofiad yn dysgu y pwnc yma i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a hefyd yn gwneud gwaith llawrydd ei hun. Gyda blynyddoedd o brofiad yn dysgu ag yn darparu sain i sioeau theatr pwy well i arwain rhan yma’r cwrs?

· Marc Thomas: Bydd ein Rheolwr Technegol ni yma yn Arad Goch, Marc Thomas, hefyd yn helpu arwain ag yn darparu cymorth i’r rheini sy’n cymryd rhan yn y cwrs.

Nid yn unig cewch ddysgu sgiliau newydd yn ystod y cwrs yma ond bydd sawl cyfle arall yn gallu deillio o hyn yn y dyfodol yma yn Arad Goch. Bydd cwrs cerddoriaeth, Arad Goch Swnllyd yn rhedeg yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn a Chwmni Drama Amatur i oedolion, felly bydd sawl digwyddiad yma dros ail-hanner 2024 yn cynnig cyfleoedd i rhai o dechnegwyr a rheolwyr llwyfan y dyfodol gael cymryd rhan ynddynt! Felly dewch yn llu os oes gennych ddiddordeb! Neu ebostiwch post@aradgoch.org os oes gennych unrhyw gwestiynau!