calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 18 Mawrth 2024

Clwb Joio Drama (bl 1, 2 a 3)

Hyd at 20 Mawrth 2024, 17:45 (£15 am 5 wythnos)
Mae’r Fenter, Theatr Genedlaethol Cymru a’r Egin yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal. Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm. Clwb Drama i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm.

Clwb Drama (bl 4, 5 a 6)

18:00 (£15 am 5 wythnos)
Mae’r Fenter, Theatr Genedlaethol Cymru a’r Egin yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal. Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm. Clwb Drama i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm.

Gweithdy Ffeltio

10:00–12:00 (Am ddim)
Gweithdy Ffeltio gyda Lora Morgan yn dysgu sut i ffeltio. Nifer llefydd cyfyngedig, rhaid archebu lle o flaen llaw. Cysylltwch gydag Anna i archebu lle – anna@ogwen.org neu 01248 602131

Sgwrs a Panad – Dyfodol Siop Ogwen

17:30 (Am ddim)
Panad a sgwrs yng Nghanolfan Cefnfaes ar Fawrth 18fed. Gwahoddiad agored i’r gymuned i drafod dyfodol eich Siop Gymunedol. Gobeithio gwelwn ni chi yno.

Yfory 19 Mawrth 2024

Noson Agored Hyfforddiant Ceredigion Training a Dysgu Bro Ceredigion

15:00–19:00 (Am ddim)
Rydyn ni’n cynnal noson agored yn HCT, Llanbadarn ar 19eg o Fawrth rhwng 3yp a 7yh. Mae’n gyfle i chi ddod i ymweld â’n canolfan a gweld ein cyfleusterau.

Dod o Hyd i’ch Talent Busnes

17:30–19:30 (Am ddim ond mae angen archebu lle!)
A ydych yn meddwl am lwybr gyrfa newydd? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cychwyn busnes ond ddim yn siŵr beth yn union?

Dydd Mercher 20 Mawrth 2024

Gymanfa’r Pasg Dechrau Canu Dechrau Canmol

19:00 (Am ddim)
Gymanfa’r Pasg Recordio 2 raglen i Dechrau Canu Dechrau Canmol S4C. Casgliad ar y ffordd allan i Sioe’r Cardis. Croeso i bawb

Peint a Sgwrs

19:00–21:00
Sesiwn hamddenol i ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr profiadol.

Dydd Iau 21 Mawrth 2024

Sesiwn Stori

10:30 (Am ddim)
Mae ein sesiynau stori yng Nghaerfyrddin ac yn ardal Dyffryn Taf yn parhau bob pythefnos. Ymunwch â ni yn y sesiynau stori yma.

Stori a Chân gyda Menter Gorllewin Sir Gâr

13:30 (Am ddim)
Ymunwch â Menter Gorllewin Sir Gâr ar gyfer sesiwn llawn hwyl o storiau a chaneuon.    I gofrestru, e-bostiwch nia@mgsg.cymru 

Stori a Chân

13:30 (Am ddim)
Bydd Stori a Chân am 1:30pm ar ddydd Iau’r 21ain Mawrth 2024. Dere i ymuno gyda ni! I gofrestru cysyllta ar nia@mgsg.cymru

Taith Gerdded ‘Sîn Roc Gymraeg Caernarfon’

18:30 (£5)
Taith gerdded efo Rhys Mwyn yn adrodd hanes y Sîn Roc Gymraeg yng Nghaernarfon. Cychwyn wrth fynedfa Castell Caernarfon.

Bingo!

19:30
Croeso i bawb i noson o fingo, paned a chacen er budd Ysgol Talgarreg.

Cyfarfod Agored i ddathlu Ysgol Dihewyd

19:30–20:30
Bydd Ysgol Dihewyd yn cau ei drysau am y tro olaf ar ddiwedd tymor Nadolig 2024.

Dydd Gwener 22 Mawrth 2024

Bore Panad Melyn

10:00–12:00 (Am ddim)
Croeso cynnes i ein Bore Panad Melyn i godi arian i Marie Curie. Sgwrs, panad, cacan a raffl. Mwy o wybodaeth gan gwenda@eryricoop.cymru 07999 453676

Lansiad Cyd-Brynu Ysgol Cribyn

19:00 (Am ddim)
Dewch yn llu i lansiad ymgyrch cyd-brynu Ysgol Cribyn! Bydd bwyd, diod ac adloniant i blant ac oedolion. Croeso cynnes i bawb.

Dydd Sadwrn 23 Mawrth 2024

Anturiaethau’r Pasg yng Ngardd Bodnant

09:30 hyd at 16:00, 1 Ebrill 2024 (£3.00 yr helfa, bris mynediad arferol i'r ardd)
Dewch draw â’r teulu y gwanwyn hwn i fwynhau byd o antur ar lwybr anturiaethau’r Pasg yng Ngardd Bodnant!

Taith Gerdded o Goedybyn i Henllan

10:00 (£5 / £3)
CROESO I GERDDWYR LLANDYSUL A PHONT-TYWELI Hid y gwanwyn yn nyfnder y wlad –  O Goedybyn i  Henllan Dydd Sadwrn 23 Mawrth 2024, 10yb (*Bws Mini Maes Parcio Llandysul) Wrth ddod oddi ar y bws …

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00–16:00 (£4 yr helfa)
Datryswch y posau yn ein Helfa Basg er mwyn hawlio eich siocled blasus!     Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!

Anturiaethau’r Pasg yng Nghastell Penrhyn

10:00 hyd at 16:00, 1 Ebrill 2024
Pasg yma, gwisgwch eich clustiau a neidiwch i fewn i wyliau Pasg yng Nghastell Penrhyn a’r ardd.

Anturiaethau’r Pasg ym Mhlas Newydd

10:30
Bydd y llwybr ymlaen rhwng 23 Mawrth -1 Ebrill 2024, rhwng 10:30am a 4pm, gyda’r mynediad olaf am 3.30pm. Pris bob llwybr yw £3.

Ffair Recordiau

11:00–16:00
Ffair recordiau gyda dau o gasglwyr a gwerthwyr  recordiau mwyaf cyffroes Cymru.

Gweithdy creu Ffansin hefo Melanie Xulu

14:00–16:00 (Am Ddim)
Gweithdy ar sut i greu ffansin gyda golygydd y cylchgrawn Moof , Melanie Xulu. Bydd y pnawn yn cynwys darlith am ddiwylliant ffansin a cyfle i greu cylchgrawn eich hyn.

Llan Llanast

15:00–17:00
Cyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd i ddarganfod mwy am Iesu’r Brenin drwy grefft, gemau, actio, canu yn ogystal â chael sgwrsio dros banad a chacen.  Trefnir y digwyddiad gan Gapel Emaus a …

Dydd Sul 24 Mawrth 2024

Taith Meddwlgarwch

09:30–12:30
Ymunwch efo ni am daith meddylgar o amgylch Cwm Idwal gyda arweinydd meddwlgarwch lleol a Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal.

Taith Gerdded Sul y Blodau

13:00
Taith gerdded cymunedol ar hyd y Lon Las i ymweld â’r mulod a dysgu am waith yr elusen, a wedyn cael panad yn Caffi Blas Lon Las Cyfle i wrando ar hanes Sul y Blodau, a hanes gwahanol mulod yn …

Cymanfa Ganu Sul y Blodau

17:00 (Cyfraniad at gynnal yr adeiladau)
Cymanfa Ganu Sul y Blodau yng Nghapel y Dyffryn, Llandyrnog, LL16 4HL, 24 Mawrth am 5 o’r gloch. Arweinydd: Trystan Lewis, Organydd: Rhys Roberts.

Dydd Llun 25 Mawrth 2024

Creu a Chadw – Lindys Llon

12:30–15:30 (Am ddim)
Dewch i greu crefftau thema’r gwanwyn sy’n dod yn fyw, wedi’i wneud o wellt a hances bapur yn unig!

Y Talwrn

19:00 (Am ddim)
Neuadd Bwlchygroes, Sir Benfro SA35 ODP Crannog v Y Ffoaduriaid a Thalwrn Waldo arbennig yng nghwmni Beirdd Sir Benfro.

Dydd Mawrth 26 Mawrth 2024

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00 hyd at 16:00, 30 Mawrth 2024 (£4 yr helfa)
Datryswch y posau yn ein Helfa Basg er mwyn hawlio eich siocled blasus!     Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!

⁠Creu a Chadw – Lindys Llon

12:30–15:30 (Am ddim)
Dewch i greu crefftau thema’r gwanwyn sy’n dod yn fyw, wedi’i wneud o wellt a hances bapur yn unig!

Menter Gwyddoniaeth – Cemeg lliwio gwlân.

13:00–15:00 (Am ddim)
Mae gwlân wedi cael ei liwio ers miloedd o flynyddoedd, gan ddefnyddio cynhyrchion naturiol fel planhigion, coed a chennau. Ond beth sydd y tu ôl i gemeg lliwio gwlân?

Dydd Mercher 27 Mawrth 2024

Parti Magi Ann

10:30
Dewch draw i fwynhau celf a chrefftau, yna sesiwn stori a chân gyda Magi Ann!

⁠Creu a Chadw – Lindys Llon

12:30–15:30 (Am ddim)
Dewch i greu crefftau thema’r gwanwyn sy’n dod yn fyw, wedi’i wneud o wellt a hances bapur yn unig!