Wedi gorffen dy TGAU neu Lefel A a hefo diddordeb cychwyn busnes 🤔? Eisiau gwella dy sgiliau cyn y 6ed dosbarth neu Prif Ysgol 🤓 ? Mae gennym ni’r digwyddiad perffaith i ti!
Mwynhewch ŵyl ddawns flynyddol Abertawe, sydd yn rhad ac am ddim i’w fwynhau, yr haf hwn wrth i Taliesin ddod â pherfformwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt, ynghyd â grwpiau dawns lleol, ynghyd yn yr …
Mae’r ŵyl yn ddiwrnod o hwyl ac adloniant i bobl o Sir Gâr a thu hwnt wrth gynnwys amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau at ddant pawb, gan gynnwys perfformiadau o gerddoriaeth byw, chwaraeon, …
Dewch yn llu i noson llawn dop yng nghwmni disgyblion ysgol Syr John Rhys, Dafydd Morgan a Chôr Meibion y Mynydd. Digon o hwyl i ddiddanu’r teulu cyfan.
Dewch i Ganolfan y Creuddyn dydd Mawrth 12fed Gorffennaf rhwng 10.00 ac 1.00 ar gyfer Sesiwn Arddio, Barddoni a Storïau gyda’r bardd Hywel Griffiths a’r chwedleuwr Ceri Phillip.
Mwynhewch swper syml, blasus o fwyd llysieuol, wedi’i dyfu yn yr ardd, a’i goginio yn ein popty cob…a’r cyfan yn ein gardd gymunedol hardd yng nghanol y ddinas.
Dewch i ddathlu lansiad nofel newydd Heiddwen Tomos, I’r Hen Blant Bach. Dylan Iorwerth fydd yn holi Heiddwen – bydd yna ddarlleniadau a chopiau ar werth gan Siop y Smotyn Du.
Dewch i’r Garth Newydd, Llanbed i weld datblygiad y ganolfan newydd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg. Cynhelir prynhawn agored Sadwrn 16eg Gorffennaf rhwng 4.00 a 7.00 o’r gloch.
Pedwar rhanbarth. Pedair cân. Un wobr. Â gwlad y gân yn gwylio o’u soffas, pwy ddaw i’r brig? Ymunwch â ni’n fyw yn y stiwdio ar gyfer rownd derfynol Anthem, cystadleuaeth ganu deledu fwya’r genedl.
Caerdroia/unland : 20 Gorffenaf 2022 7 y.h Cerddoriaeth arbrofol fyrfyfyr ar gyfer dwr, telyn, ffidil ac electroneg Cwrdd yn Ffynnon Sant Caron, Tregaron gyda JWDR a Rhodri ac Angharad Davies @7pm