calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 9 Mai 2024

Cwrs Confirmasiwn

18:30
Cwrs 6 wythnos i baratoi ar gyfer Gwasanaeth Conformasiwn gydag Archesgob Cymru ar 19eg o Fai yn Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr.

Dydd Sadwrn 11 Mai 2024

Sesiwn Greu

Sesiwn greu gyda Stampwyr Eryri 2 le ar ôl2 spaces left Cyfle i ddysgu am amryw o dechnegau gwahanol e.e. stampio, blendio, die cutting, alcohol markers a mwy!

Ffair Hen Bethau a Gwneuthurwyr y Glannau

10:00–16:00 (Am ddim)
Amrywiaeth cyffrous o stondinau danteithion a chrefftau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024

10:00–17:00 (Am ddim)
Mae gŵyl fwyd fwyaf Cymru yn ôl. Stondinau bwyd Cwrw lleol Cerddoriaeth fyw Ardal i’r Teulu Cynnyrch artisan Arddangosiadau coginio Bwyd Môr A MWY! Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Cerbydau Cymru

11:00–16:00 (Am ddim)
Bydd cerbydau o bob lliw a llun yn ymgasglu o gwmpas yr Amgueddfa i ddathlu eu hanes yng Nghymru. O feiciau modur, bysiau a thryciau i locomotif stêm anhygoel yr Amgueddfa.

Ffair Egin

12:00
Ffair Amgylcheddol Y Dref Werdd

Sibrydwyr Cymraeg

19:00 (£5)
Dewch ynghyd a gwrandewch ar STRAEON a chwedleu traddodiadol Gwynedd, yn cael eu hadrodd gan griw o storiwyr y Ddraig ei hun. Cyflwynir gan y storiwr meistr Daniel Morden.

Côr-tastig

19:30 (£10 i oedolion a plant am ddim)
Cystadleuaeth Gorawl ysgafn yn y Moody Cow, Llwyncelyn. Oedolion £10. Plant am ddim. Tocynnau ar gael o Theatr Felinfach. Elw tuag at Ganolfan Therapi Ocsigen Aberteifi.

Cystadleuaeth Côr-tastig 2024

19:30–23:00 (£10)
Nos Sadwrn yma bydd Côr Cardi-Gân yn cynnal Cystadleuaeth Côr-tastig yn y Moody Cow yn Llwyncelyn.

Dydd Sul 12 Mai 2024

Ffair Hen Bethau a Gwneuthurwyr y Glannau

10:00–16:00 (Am ddim)
Amrywiaeth cyffrous o stondinau danteithion a chrefftau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Gwasanaeth Cymorth Cristnogol a Chinio Bara a Chaws

10:30
Gwasanaeth arbennig ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol, a chinio Bara a Chaws i ddilyn – casgliad tuag at Gymorth Cristnogol

Pedwarawd Llinynnol

11:30
Perfformiad am ddim yng nghalon y gymuned! Mae Sinfonia Cymru’n angerddol am wneud cerddoriaeth safonol yn hygyrch i bawb yng Nghymru

Dydd Llun 13 Mai 2024

Bore Coffi Cymorth Cristnogol

10:00–12:00 (Am ddim)
Cacennau Pethau newydd Planhigion Raffl Yr elw tuag at Gymorth Cristnogol.

Dydd Mawrth 14 Mai 2024

Dysgu Nyddu

10:00–12:00 (Am ddim)
Rhowch gynnig ar ddysgu nyddu yn yr Amgueddfa!   Mae lleoedd yn gyfyngedig a bydd angen i chi archebu tocyn. 

Bore Coffi Cymunedau Cynaliadwy

10:00–13:00
Cyfres o foreau coffi am ddim i gwrdd â phobl eich ardal leol, sgwrsio dros ddiod poeth ac ymuno mewn gweithgareddau!  Dewch yn llu!

Dydd Mercher 15 Mai 2024

Noson Gwis Rhuddlan

(£1)
Noson gwis ddwyieithog hwyliog yn nhafarn y New Inn, Rhuddlan. £1 y pen (menw timau), gwobrau da a raffl ar gael

Paned a Sgwrs Rhuddlan

Croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg o unrhyw lefel ddod draw i Lyfrgell Rhuddlan am baned a sgwrs anffurfiol (Trydydd bore Mercher pob mis)

Operation Julie

19:30 (£25/£23)
Mae’r sioe lwyddiannus a werthodd allan haf diwethaf yn ôl i ‘prog-rocio’r DU.

Noson Agored Patagonia

19:30–21:00 (Am ddim)
Noson i ddathlu cyfraniad Elvey a Eirionedd Mewn noson arbennig ar y 15fed o Fai yn Amgueddfa Ceredigion, bydd Cymdeithas Gefeillio Aberystwyth-Esquel yn dathlu cyfraniad arbennig Eirionedd …

Dydd Iau 16 Mai 2024

Stori a Chân gyda Menter Gorllewin Sir Gâr

13:30 (Am ddim)
Ymunwch â Menter Gorllewin Sir Gâr ar gyfer sesiwn llawn hwyl o storiau a chaneuon.    I gofrestru, e-bostiwch nia@mgsg.cymru    Mae’r digwyddiad yma’n rhad ac am ddim, ond bob tro y byddwch chi’n …

Ffenast Siop

19:30 (£15 | £14 | £13)
Cwmni Theatr Bara Caws  “Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y …

Dydd Gwener 17 Mai 2024

Teithiau Canolfan Mileniwm Cymru

13:00–14:00 (£12)
Dewch am daith gefn llwyfan i gael cipolwg arbennig ar fyd y theatr tu ôl i’r llen.

Clwb Canna’n cyflwyno Gwilym Bowen Rhys a’r band + Mari Mathias

20:00–22:30 (£15)
Mae Clwb Canna yn cyflwyno i chi…Gwilym Bowen Rhys a’r bandMari Mathias Nos Wener 17 Mai 20248pm-10:30pmDrysau am 7:30pm Clwb LiberalsTregannaCaerdyddCF5 1JD Bydd bar ar y noson – …

Dydd Sadwrn 18 Mai 2024

Gweledigaethau: Symposiwm Ellis Wynne

10:00 (£5)
Cyfres o sgyrsiau wedi eu trefnu gan Gyfeillion Ellis Wynne ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Bangor. Gydag Angharad Price, Robat Trefor a Dafydd Glyn Jones.

Marchnad Lleu

10:00 (Roedd ‘na ddigon i wneud yn y Farchnad mis Ebrill rhwng y stondinau amrywiol – caws gafr, llysiau, cacennau, crefftau a phlanhigion. Daeth Tyddyn Teg o Fethel i werthu llysiau a rhannu gwybodaeth am eu cynllun Bocsus Llysiau. Mae sawl maint ar gael a gellir archebu a mi fydd yn bosib eu codi o’r Farchnad. Yn y Caffi roedd cyfle i gael brecwast o roliau bacwn neu wy ac yna cinio o chili llysiau, pizza cartref hefo madarch neu lysiau – a blasus oeddent ‘fyd. Gwerthwyd sawl cacen hefo paneidiau o de a choffi. Bwrdd rhannu gwybodaeth mis yma oedd ‘Gofyn i Mi’, o dan ofal Sian sy’n gweithio i fudiad Cymorth i Ferched. Roedd ganddi bosteri, cardiau a chyfle i rannu gwybodaeth ar pa gymorth sydd ar gael i oresgyn trais yn y cartref. Diolch iddi am ddod atom. Daeth criw at eu gilydd i stafell Yr Aelwyd i ddysgu dawnsio Salsa hefo Josie, rhaid oedd symud y traed gan gyfri a chofio pob math o symudiadau (sôn am chwerthin!) Mae sawl un o’r criw am fynd i Glwb Salsa Bangor gan eu bod wedi joiio cymaint. Stondin y Mis oedd prosiect Gardd Nant sydd wedi cychwyn yn Nhalysarn. Cafwyd cyfle i drafod y prosiect tra’n prynu tombola, llyfrau a chydig o waith llaw. Gobeithio eu bod wedi cael lot o bres ar gyfer eu cynlluniau. Yn y neuadd fawr cynhaliwyd cystadleuaeth plannu hadau blodau haul a bydd yn cael ei feirniadu fis Medi. Rhannwyd taflen i ddangos pwysigrwydd y planhigyn i ni. Hefyd yn y neuadd roedd Gwyneth wedi gadael ei bwrdd gwerthu – Bocssebon, i ddangos sut i wneud papur yn defnyddio papur wedi’i falu’n fân, dail a hâd a dwr. Pawb wedi mwynhau ac yn browd iawn o’u papur. Diddorol iawn wir. Diolch i’r stondinwyr am ddod atom ac i bawb am gefnogi eich marchnad leol.m ddim)
Marchnad leol i bobol leol. Stondinau bwyd, cynnyrch a chrefftau lleol. Caffi Tulluan yn gwerthu brecwast, cinio a chacennau. Stondin y Mis fydd Merched y Wawr.

Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch

11:00 (3.00/4.00)
11.00 Eisteddfod leol 13.30 Eisteddfod yr Ifanc 17.30 Eisteddfod yr hwyr

Sesiwn hwyl Nintendo Gogledd Cymru

11:30–16:00 (Am Ddim)
Mae’n fraint croesawy mudiad Nintendo North Wales i Storiel am pnawn o Gemau, Gwobrau a Gweithio ar y Cyd.

Carnifal Bethesda

13:00
Croeso mawr i bawb ymuno yn hwyl Carnifal Bethesda 2024!  Bydd yr orymdaith yn dechrau o Glwb Pel-droed Bethesda am 1yp, gyda chyfle i chi greu fflôt eich hun i ymuno a’r gorymdaith lawr y …

Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari gyda Gwilym Bowen Rhys

15:00–17:00 (£8)
Ymgollwch eich hun mewn prynhawn bythgofiadwy o ddiwylliant Cymru a Hwngari yng Nghasnewydd!

Steve Eaves a Rhai Pobl + Jacob Elwy

19:30 (£10)
Llais Prestatyn yn cyflwyno… Steve Eaves a Rhai Pobl Jacob Elwy Nos Sadwrn 18 Mai (7.30yh-10.30yh) HQ Pencadlys (tu allan i gefn y dafarn/gwesty) Tocynnau £10: ar-lein, neu ar gael o Swyddfa …

Dydd Sul 19 Mai 2024

Pride Bach

12:00–15:00 (Am ddim)
Dathlwch Pride Bach yn Amgueddfa Genedlaethol y GlannauMae croeso i bawb i’r rhaglen hwyliog hon i’r teulu cyfan i ddathlu bod yn hapus, yn falch ac i ymfalchïo ym mhwy ydych chi.  Yn cynnwys: …

Gwasanaeth Cymorth Cristnogol

17:00
Gwasanaeth cyd-enwadol i gloi Wythnos Cymorth Cristnogol..croeos i BAWB i ddysgu am waith Cymorth Cristnogol yn Burundi a hanes merch o’r enw Aline a’i theulu… Cyfle i rhoi diolch …

Dydd Mawrth 21 Mai 2024

Bore Coffi Cymunedau Cynaliadwy 

10:00–13:00
Cyfres o foreau coffi am ddim i gwrdd â phobl eich ardal leol, sgwrsio dros ddiod poeth ac ymuno mewn gweithgareddau!  Dewch yn llu!

Stori a Chân gyda Cymraeg i Blant

13:30 (Am ddim)
Ymunwch â Cymraeg i Blant, yn ystafell addysg Amgueddfa Wlân Cymru am sesiwn llawn hwyl!