Noson Agored Patagonia

19:30, 15 Mai

Am ddim

Noson i ddathlu cyfraniad Elvey a Eirionedd

Mewn noson arbennig ar y 15fed o Fai yn Amgueddfa Ceredigion, bydd Cymdeithas Gefeillio Aberystwyth-Esquel yn dathlu cyfraniad arbennig Eirionedd Baskerville ac Elvey MacDonald.

Bydd y noson am ddim yn Amgueddfa Ceredigion ar nos Fercher, 15fed o Fai 2024, gyda chroeso i bawb sydd am ddathlu ein cysylltiad gyda Phatagonia.

Noson yn dechrau am 7.30, gyda lluniaeth ysgafn am 7.

Wedi byw yn Aberystwyth am ran sylweddol o’i fywyd, roedd Elvey yn trefnu teithiau i Batagonia a chynrychioli Cymdeithas Cymru-Ariannin ar banel Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.

Roedd yn golled i Ogledd Ceredigion yn ogystal ag Abermagwr pan fu farw Eirionedd. Roedd yn aelod gweithgar gyda’r Gymdeithas Gefeillio, papur bro’r Ddolen, yn ogystal â’i gwaith diflino yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyhoeddodd lyfr ‘Patagonia 150- Yma i Aros’ (y Lolfa), oedd yn dathlu’r 150 mlynedd ers i Gymry ymfudo i Batagonia, dyma olwg drwy lygad y camera ar y bywyd yno ddoe a heddiw. Roedd yn cynnwys ffotograffau o archifau a chasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, ac yn cyfuno ei gwaith a’i diddordeb mynwesol ym Mhatagonia.