Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari gyda Gwilym Bowen Rhys

15:00, 18 Mai

£8

Ymgollwch eich hun mewn prynhawn bythgofiadwy o ddiwylliant Cymru a Hwngari yng Nghasnewydd!

Dewch i fwynhau perfformiad cyffrous gan y canwr a chyfansoddwr caneuon gwerin enwog Gwilym Bowen Rhys, a fydd yn swyno’r gynulleidfa gyda detholiad o ganeuon Cymraeg traddodiadol a chyfoes.

Yna, ymunwch â Grŵp Dawnsio Gwerin Hwngari Bryste mewn sesiwn ‘tŷ dawns’ ryngweithiol hwyl i bawb. Does dim angen profiad – ond dewch â’ch esgidiau dawnsio a gadewch i’r rhythm eich arwain chi!

RHAGLEN:

15:00-16:00: Cerddoriaeth werin Gymraeg gyda Gwilym Bowen Rhys

16:00-17:00: ‘Tŷ dawns’ Hwngari gyda Grŵp Dawnsio Gwerin Hwngari Bryste

  • Tocynnau: oedolion £8, plant (2-14 oed) £5.
  • Cinio bys a bawd Hwngari ar gael.
  • Parcio am ddim ar y safle a gerllaw.

Peidiwch â cholli’r cyfle i brofi cyfuniad bywiog o ddau ddiwylliant anhygoel gan ddathlu’r cysylltiad parhaus rhwng Cymru a Hwngari.