Celf, Cân a Phrotest

17:00, 1 Gorffennaf 2023

Mae’r Gymdeithas wedi cynhyrchu albym aml-gyfrannog Nid yw Cymru ar Werth. 

Bydd yn cael ei lansio mewn trafodaeth rhwng Toni Schiavone, Iwan Bala a Catrin O’Neill am gelfyddyd fel cyfrwng i brotestio, a pherthnasedd hynny wrth ymgyrchu heddiw.

Iwan Bala sydd wedi dylunio clawr yr albym, gan ddal ysbryd yr ymgyrch ac mae Catrin O’Neill yn un o gyfrannwyr yr albym, sy’n gasgliad o ganeuon yn ymwneud â phroblemau tai ein cymunedau