Digwyddiad Prisio Elusennol

11:00, 13 Medi

Ydy pobl Aberystwyth yn eistedd ar ffortiwn fach? Mae gan y Tîm celfyddyd gain yr ateb!

A allai pobl sy’n byw yn ac o gwmpas Aberystwyth fod yn eistedd ar ffortiwn fach yn ddiarwybod?

Dyna’r cwestiwn bydd tîm o arbenigwyr o Celfyddyd Gain HALLS Fine Art sydd wedi eu lleoli yn yr Amwythig yn ceisio ateb pan fyddant yn ymweld ag  Aberystwyth i gynnal diwrnod prisio hen bethau ar gyfer elusen leol hosbis yn y cartref HAHAV Ceredigion ar ddydd Gwener, Medi 13eg o 11yb tan 2yp.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Morlan, Morfa Mawr, Aberystwyth SY23 2HH a bydd yr holl elw yn mynd tuag at HAHAV Ceredigion. Codir ffi o £2 am bob eitem a brisir yn broffesiynol gan dîm Celf Gain Halls.

Yr arbenigwyr sy’n hela trysorau cudd yw Maryanne Lineker-Mobberley, arbenigwr arian, gemwaith a bijouterie ac Alexander Clement, arbenigwr oriorau, clociau a chelf Asiaidd a phrisiwr cyffredinol.

“Mae rhai blynyddoedd wedi pasio ers i ni gynnal diwrnod prisio hen bethau elusennol yn Aberystwyth, tref sydd wastad wedi bod yn gyrchfan hapus i Halls Fine Art,” meddai Maryanne. “Rydym i gyd yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r dref i godi arian at elusen mor wych tra  byddwn gobeithio, yn dod o hyd i drysorau cudd hefyd.

“Un o’r pethau mwyaf pleserus i ni fel priswyr proffesiynol, yw nad ydyn ni byth yn gwybod beth ry ni’n mynd i’w weld yn y digwyddiadau hyn.”

Mae Celfyddyd Gain HALLS Fine Art wedi sicrhau cyfres o ganlyniadau llwyddiannus i bobl sy’n byw ar hyd arfordir canolbarth Cymru eleni, a’u huchafbwynt oedd casgliad mawr o ddarnau arian aur coffaol o’r DU a werthodd am £19,000.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cael prisio casgliadau neu hen bethau o faint sylweddol yn y digwyddiad yn Aberystwyth ddod â lluniau gyda nhw i ddangos i’r arbenigwyr, a gallan nhw drefnu ymweliad wedyn i’r cartref.

Gall y rhai sydd â hen bethau maent yn dymuno cael eu prisio ond nad ydynt yn gallu mynychu’r digwyddiad gysylltu â’r tîm celfyddyd gain ar 01743 450700. Ewch i https://fineart.hallsgb.com/ am ragor o wybodaeth.

Elusen sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr yw HAHAV Ceredigion, a sefydlwyd yn 2014 mewn ymateb i’r angen oedd bron yn llethol am gymorth ymhlith pobl â salwch cronig sy’n cyfyngu ar eu bywyd, eu gofalwyr a’u teuluoedd.

Cymorth yn y Cartref oedd y gwasanaeth cyntaf i gael ei sefydlu. Cydlynydd sy’n ei reoli a thîm ymroddedig o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n rhoi’r gwasanaeth. Mae’n cyrraedd pobl ledled Ceredigion gan roi’r flaenoriaeth i bobl sy’n wynebu 12 mis olaf eu bywyd.

Mae’r Gwasanaethau Byw’n Dda yn cynnal gweithgareddau sy’n cefnogi lles cleientiaid ac yn eu helpu nhw i reoli rhai o symptomau heriol salwch cronig, megis poen, blinder a phryder. Mae’r gweithgareddau’n rhad ac am ddim ac mae lluniaeth ar gael.

Mae’r elusen hefyd yn darparu gwasanaeth cwnsela galar rhad ac am ddim, sydd ar gael ar unrhyw adeg yn ystod taith galar rhywun. Gall cymorth fod yn bersonol, ar-lein a thros y ffôn ac fe’i darperir yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae holl wasanaethau HAHAV ar gael am ddim i oedolion sy’n byw yng Ngheredigion. Rydyn ni’n derbyn pobl sydd wedi cael eu cyfeirio gan ddarparwyr gofal iechyd ac elusennau eraill, yn ogystal â phobl sy’n troi aton ni eu hunain.

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod os hoffech chi fanteisio ar ein gwasanaethau; neu i gael gwybod sut y gallwch chi ein cefnogi ni, trwy gyfrannu, codi arian neu wirfoddoli.

Mae cysylltiadau eraill yn cynnwys: Canolfan Byw’n Dda 01970 611550 Siop Elusen yn 14 Heol y Wig Aberystwyth 01970 612194 a Warws Ddodrefn yn Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon 01970 625387.

Bydd Maryanne Lineker-Mobberley ac Alexander Clement o Halls Fine Art yn ymweld ag Aberystwyth ar Fedi 13eg.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Maryanne Lineker-Mobberley yn Halls, ar 01743 450700 neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.