![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/14/2024/06/17A_0574-308x206.jpg?0)
Autosave-File vom d-lab2/3 der AgfaPhoto GmbH
Mae Euros Childs wedi bod yn creu cerddoriaeth dros 30 o flynyddoedd fel unawdydd a phrifleisydd Gorky’s Zygotic Mynci. Mae e wedi rhyddhau 19 o albymau dan ei enw ei hun ar ei label National Elf. Ers 2019 mae e’n chwarae allweddellau a chanu gyda Teenage Fanclub ac wedi cyfrannu at eu dau album diwethaf.
Gyda’r daith hon mae e’n dychwelyd i’r llwyfan gyda band am y tro cyntaf ers saith mlynedd. Yn ymuno ag Euros bydd hen ffrindiau a chyd-gerddorion Stephen Black (aka Sweet Baboo), Stuart Kidd (Kidd, The Wellgreen) a Selma French (Morgonrode, Frøkedal).
Byddwch yn barod am sioe fywiog, llawn egni a hiwmor sy’n cynnwys llawer o ôl-gatalog Euros yn ogystal â chaneuon o’i album newydd Beehive Beach sy’n cael ei ryddhau fis Hydref.