Gŵyl Canol Dre

11:00, 6 Gorffennaf

Am ddim

Bydd ein gŵyl Gymraeg yng Nghaerfyrddin, Gŵyl Canol Dre yn ei ôl eleni eto! Cynhelir yr ŵyl ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin ar y 6ed o Orffennaf! Bydd yr ŵyl yn rhedeg o 11 y bore tan 9 yr hwyr a bydd mynediad am ddim i bawb. Eleni, cyhoeddwyd gwledd o gerddoriaeth fyw o’r prif lwyfan. Dewch i weld a chlywed Eden, Bwncath, Tara Bandito, Dros Dro, Fflur Dafydd, Mynadd, Dadleoli, Côr Seingar, Alys a’r Tri Gŵr Noeth a’r Sesiwn Werin. Yn ogystal bydd stondinau, celf, adloniant, bwyd a diod, llenyddiaeth, gweithdai a llawer mwy – rhywbeth at ddant pawb! Edrychwn ymlaen i’ch gweld chi yno! Am fwy o fanylion ewch draw i dudalen Gŵyl Canol Dre ar facebook ac instagram neu ewch i wefan y Fenter.