Gwyl Fwyd Llanbed
Digwyddiad blynyddol ar gampws y Brifysgol yn Llanbed
Am ragor o wybodaeth ewch i lampeterevents.co.uk
Cornel Coginio yn cynnwys arddangosfa gan staff a myfyrwyr Coleg Ceredigion
Meddai Huw Morgan, Darlithydd Arlwyo a Lletygarwch
“Ar gyfer ein harddangosfa eleni, rydym wedi penderfynu cyflwyno’r gorau y mae Gorllewin Cymru yn ei gynnig. Yng nghwmni rhai o’n dysgwyr, bydd ein Darlithydd Cogydd byd-enwog, Sam Everton, yn eich cyflwyno i fyd “Helgig,” gan ddangos y technegau a’r dulliau a ddefnyddir i greu canapés syfrdanol. Byddaf i yn archwilio’r byd gwasanaeth bwyd a choctels, gan bwysleisio’r defnydd o gynnyrch lleol. Bydd hyn yn cynnwys arddangos flambé, gwin, a choctels sydd ar gael yn ein Bwyty Hyfforddi, Bwyty Maes y Parc, sydd wedi’i leoli ar Gampws Aberteifi Coleg Ceredigion”