Gwyrfai Gwyrdd – menter ynni cymunedol newydd

19:00, 18 Gorffennaf

Poeni am eich biliau ynni?

Pendroni am effaith newid hinsawdd?

Eisiau gweld y gymuned yn cydweithio i newid pethau er gwell?

@gwyrfaigwyrdd – menter ynni cymunedol newydd sydd yn cael ei sefydlu i gynnig trydan rhatach (25%+) trwy ddefnyddio ynni hydro a solar lleol.

Cynghorau Cymunedol Waunfawr Caeathro a Betws Garmon, Antur Waunfawr, Adra a Cymunedoli i gyd yn bartneriaid.

Dewch i’n gweld ni i ddeall rhagor a chyfrannu eich syniadau!!

Sesiynau taro heibio rhwng 4pm-7.30 ar 8/7 yn Rhyd-Ddu (Cwellyn Arms), 9/7 yn Waunfawr (y Ganolfan), 10/7 yng Nghaeathro (Canolfan y Capel), 12.00pm-4pm ar 13/7 yn Ffair Haf Antur Waunfawr.

Cyfarfod Cyhoeddus a Gweithdy ar 18/7 rhwng 7pm-9pm yn y Ganolfan, Waunfawr, cyfle i bawb cyfrannu a dysgu rhagor am gynlluniau Gwyrfai Gwyrdd.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch efo Dafydd Davies ar 07841 764044 neu dafydd.davies@gwyrfaigwyrdd.cymru