Helfa Pryfedtach Prys a’r Pryfed

09:30, 22 Gorffennaf – 16:00, 31 Awst

Digwyddiad am ddim, codir tal mynediad arferol i'r ardd.

Dewch i weld y byd trwy lygaid pryfyn gyda Prys a’r Pryfed gan Aardman! 

Ymunwch â ni am haf o hwyl gyda Prys â’r Pryfed, cyfres gomedi wedi’i hanimeiddio gan Aardman.

Mwynhewch chwilio am gymeriadau, gan gynnwys Prys a’i chwaer fach PB a’i ffrind gorau Abacus y pry’ lludw.

Lawrlwythwch ap realiti estynedig arbennig a ddatblygwyd gan Aardman i ‘leihau’ eich hun yn faint pryfyn a gweld y byd trwy lygaid pryfyn. Yn ogystal, mwynhewch weithgareddau difyr i’r teulu drwy gydol yr haf yn yr ardd.

Pob dydd o 22 Gorffennaf – 31 Awst, o 9.30yb tan 4yp. Digwyddiad am ddim, mynediad arferol i’r ardd yn daladwy i’r rhai nad ydynt yn aelodau. Ewch i Google Play neu App Store a chwiliwch am ‘Bug Hunt’ i lawrlwytho’r ap am ddim.