A Museum under a Mountain: The National Gallery’s Wartime Home

17:00, 25 Mehefin

Am ddim

Suzanne Bosman, awdur ‘The National Gallery in Wartime’
 
Mae hanes y chwarel lechi ym Manod, ger Blaenau Ffestiniog, fel cuddfan i baentiadau’r National Gallery yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn weddol gyfarwydd. Ond, mae sut y daethant i fod yno, yn stori arall.

Bydd y sgwrs hon yn datgelu sut y bu i’r paentiadau adael Llundain ar drothwy’r rhyfel mewn cyfrinachedd llwyr i wahanol leoliadau yng Nghymru, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a sut y gallai eu tynged yn y pen draw fod wedi bod yn wahanol iawn.

Bydd y sgwrs yn cynnwys deunydd archif hanesyddol a ffotograffau diweddar o’r tu mewn i chwarel lechi Manod.

Nodwch na fyddwch yn gallu gwylio’r digwyddiad hwn yn dilyn y ffrwd fyw.

Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg.