NG200 National Treasures: Canaletto’s The Stonemason’s Yard

17:00, 26 Gorffennaf

Am ddim

Ymunwch â Maria Alambritis, Cymrawd Curadurol Vivmar yn y National Gallery, i gael golwg fanwl ar The Stonemason’s Yard (tua 1725) gan Canaletto yn y digwyddiad arbennig hwn.

Mae National Treasures: Canaletto in Aberystwyth a’r arddangosfa ehangach Delfryd a Diwydiant yn rhan o ddathliadau 200 mlwyddiant y National Gallery. Mae’r arddangosfa yma yn gyfle unigryw i weld campwaith Canaletto yng Nghymru ochr yn ochr â thirluniau Cymreig o’r Casgliad Celf Cenedlaethol, mewn arddangosfa sy’n edrych ar y cysylltiadau artistig a thematig rhwng The Stonemason’s Yard a thirwedd Cymru.
 
Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg.