Trafod cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

19:00, 7 Medi

£10 (sef tâl aelodaeth am y flwyddyn o 10 digwyddiad))

CYMDEITHAS CEREDIGION
Caffi Emlyn, Tanygroes
Nos Sadwrn 7 Medi 7pm. Noson agoriadol ein tymor.
Dewch i ymuno â ni i drafod cyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Ar ôl y croeso gan ein llywydd newydd Barbara Roberts, Aberaeron, bydd y Prifardd Tudur Dylan Jones yn llywio’r noson. Byddwn ni’n cael cip ar gyfansoddiadau buddugol yr Eisteddfod a hynny yng nghwmni enillwyr y tair prif wobr, sef Gwynfor Dafydd (y Goron), Eurgain Haf (y Fedal Ryddiaith) a Carwyn Eckley (y Gadair). Bydd cyfraniadau gan Ceri Wyn Jones, Gillian Jones, Emyr Davies, Mererid Hopwood, Idris Reynolds, Terwyn Tomos ac eraill. Bydd croeso mawr i unrhyw un yn y gynulleidfa gynnig ei sylwadau ei hun ar y gwaith a holi’r prif enillwyr naill ai yn y cyfarfod ei hun neu wedyn dros baned.

Tâl mynediad £10 sy’n cynnwys aelodaeth am y flwyddyn gyfan.
Bydd paned a sgwrs i ddilyn
Croeso cynnes iawn i bawb. Rhannwch geir i gyrraedd os gallwch gan y bydd llefydd parcio’n brin.