What is Welsh Landscape?

17:00, 23 Awst

Am ddim

Mae arddangosfa Delfryd a Diwydiant yn cyflwyno tirweddau cyferbyniol Cymru drwy’r Casgliad Celf Cenedlaethol o dirluniau Cymreig. Yn y digwyddiad arbennig hwn, bydd tri artist sydd â’u gwaith yn rhain o’r arddangosfa, a churadur yr arddangosfa yn edrych ar beth yw tirwedd Gymreig.

Ymunwch â’r artistiaid, David Carpanini, Maria Hayes ac Elizabeth Haines, a Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru am olwg hynod ddiddorol ar beth mae tirwedd Cymru yn ei olygu iddyn nhw a sut maen nhw wedi’i ddehongli.

Mae arddangosfa Delfryd a Diwydiant, sy’n cynnwys National Treasures: Canaletto in Aberystwyth, yn arddangos The Stonemason’s Yard gan Canaletto, sydd ar fenthyg gan y National Gallery fel rhan o’u dathliadau 200 mlwyddiant. Gan arddangos tirluniau Cymreig o’r Casgliad Celf Cenedlaethol, mae’r arddangosfa’n archwilio’r cysylltiadau thematig rhwng The Stonemason’s Yard a golygfeydd Cymru.

**Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg**