![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/14/2024/06/Screenshot-4-308x176.png?0)
Dewch i godi to’r Amgueddfa ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol!Thema eleni yw Natur Anhygoel!
Yn cynnwys:
– Sgiliau syrcas a gemau gan Circus Eruption, gan gynnwys pêl Daear enfawr a gemau parasiwt
– Celf a chrefft
– Adeiladu ffau
– Cymeriadau ar grwydr
– Paentio wynebau
– Amser odli yn Gymraeg
– Stondinau gwybodaeth
– Cerddoriaeth fyw
…a diweddglo llawn conffeti!
Mae pob gweithgaredd am ddim.
Mewn partneriaeth â Thîm Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Abertawe a Phartneriaid Chwarae
Diwrnod Chwarae Cenedlaethol – Awr Dawel – 10am – 11am
Cyfle i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol i blant sy’n mwynhau amser tawelach a mwy llonydd.
Mae pob gweithgaredd am ddim.