Ar ddydd Sadwrn y 23ain o Orffennaf agorwyd PARC GWENFREWI, yn swyddogol gan y Maer, Cynghorydd Talat Chaudhri.
Gwnaethpwyd datblygiad y parc yn bosib trwy grant gan lywodraeth Cymru.
Mae’r dyluniad newydd yn ymgorffori ardal o goetir, blodau gwyllt, gwelyau llysiau ar gyfer cymunedau lleol
yn ogystal ag ardaloedd o lawnt a mannau eistedd.
Mae’r parc yn gaffaeliad gwych i bobl Aberystwyth nawr ac i’r dyfodol.