Bywydau Cefn Gwlad – Arddangosfa Gelf

10:00, 21 Mai 2022 – 16:00, 29 Mai 2022

Am ddim

Bywydau Cefn Gwlad – Arddangosfa Gelf gan yr artist Sue Dewhurst

Paentiadau sy’n archwilio treftadaeth amaethyddol, ysguboriau, ffermio, da byw a phobl – hanfod bywyd cefn gwlad.
Hefyd cyflwynir astudiaethau Hen Wragedd a Llanciausef cymeriadau hŷn, hwyliog sy’n aml yn cael eu hanwybyddu mewn cymdeithas fodern, ond sy’n dal i fod â llawer i’w ddweud!
Arddangosfa yn agor rhwng 10am a 4pm dydd Sadwrn 21 Mai – dydd Sul 29 Mai 2022
Dewch draw i gael sgwrs – cewch groeso cynnes.

Mae Sue yn estyn croeso i bawb ac yn enwedig i’r gymuned ffermio alw heibio a dweud helo ac mae bob amser yn awyddus i glywed straeon am deuluoedd ffermio ar hyd y cenedlaethau.
Cysylltu: Sue 01239 851615
thepopupgallery@btinternet.com 
www.suedewhurst.co.uk