Cant ar y Copa

1 Mai 2022

Pumlumon2

Un o deithiau blaenorol Dafydd i Bumlumon

Er budd Cronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022, mae’r daith Ddydd Sul yma, y 1af o Fai, yn bartneriaeth rhwng cymunedau Croeso i Gerddwyr Pontarfynach, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan a Llandysul/Pont Tyweli.

Y nod yw cael cant o gerddwyr i gopa mynydd uchaf Ceredigion, Pumlumon Fawr 2468tr, yn ddiogel a threfnus. Mae bron i gant wedi arwyddo i fyny hyd yn hyn ac mae’r trefnwyr yn croesi bysedd am dywydd da ar y diwrnod.

Mae nifer fach o lefydd ar ôl ar gyfer y daith, os hoffech ymuno cysylltwch gyda Dafydd trwy e-bost twmstreks@btinternet.com neu ffôn 07748675798