Ymunwch â ni yn Lle Arall, Llety Arall i ddathlu’r ffaith fod Cymru wedi cyrraedd cystadleuaeth Cwpan y Byd.
Bydd Rhys Iorwerth, y bardd a ffan o’r bêl gron yn llywio sgwrs rhwng tri o rai o leisiau amlycaf pêl-droed Cymru:
- Heledd Anna, Cyflwynydd Chwaraeon BBC Radio Cymru
- Sioned Dafydd, Gohebydd a Chyflwynydd Sgorio ac S4C Chwaraeon
- Sara Pennant, Rheolwr Cyfathrebu CBDC
Bydd yn ddigwyddiad hybrid, gyda rhai o’r cyfrannwyr yn ymuno o bell. Mae croeso i’r sawl sy’n dymuno ymuno â’r digwyddiad wneud hynny yn y cnawd neu yn rhithiol.
I dderbyn dolen i ymuno’n rhithiol, anfonwch neges at post@lletyarall.org