Mae Fforwm Pobl Hŷn cyntaf Ardal Caernarfon yn cael ei gynnal ar Hydref yr 19eg am 1:30yh yn yr Institiwt yng Nghaernarfon.
Bwriad y digwyddiad yw dod draw i glywed gwybodaeth ddiweddaraf gan staff y Cyngor a mudiadau trydydd sector lleol, cyfle i leisio barn ac yn ogystal bydd cyfle i gymdeithasu a mwynhau sgwrs dros baned.
Mae croeso cynnes i bawb a bydd yn gyfle i sgwrsio gyda staff y Cyngor, rhai o Gynghorwyr lleol yr ardal, staff mudiadau lleol ac wrth gwrs pobl hŷn eraill o’r ardal. Byddwn yn edrych ymlaen i glywed eich barn ar sut i symud ymlaen gyda’r gwaith i’ch cefnogi yn y ffyrdd gorau posibl.
Os am fynychu, ebostiwch Mirain ar mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 682818. Mae modd cael y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar ein tudalen Facebook: Gwynedd Oed Gyfeillgar | Facebook