Ar Gered: Cwmbrwyno

10:30, 24 Medi 2022

Am ddim

Dyma’r daith gerdded nesaf yng nghyfres boblogaidd ‘Ar Gered’.

Ymunwch â Steff Rees, Arweinydd Tîm Cered am daith 9 cilomedr o hyd ar hyd llwybrau a chefnffyrdd heddychlon a diarffordd o gwmpas ardal Cwmbrwyno. Cewch weld olion difyr o ddyddiau diwydiannol y fro, golygfeydd ysblennydd a gweld Castell Bwa Drain – a oes lleoliad gwell am gastell unrhywle yng Ngheredigion? Atebion ar gerdyn post…

Teithiau Cymraeg eu hiaith yw Ar Gered ac mae croeso i siaradwyr Cymraeg o bob lefel felly hyd yn oed os ydych chi ond yn gwneud eich ‘camau cyntaf’ dewch yn llu.

Os ydych yn gerddwr brwd sy’n dwlu gwisgo’ch bŵts cerdded a darganfod llwybrau newydd byddwch chi wrth eich bodd yn dod ar y daith hon. 

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru e-bostiwch: steffan.rees@ceredigion.gov.uk