Gweithgareddau Hanner Tymor Chwefror 2022
Rydym yn falch o gyflwyno i chi ein gweithgareddau newydd ar gyfer yr Hanner Tymor Chwefror, gyda rhan fwyaf o’r gweithgareddau yn rhad ac am ddim! Digonedd o weithgareddau i’ch cadw chi’n brysur!
Mae gweithgaredd corfforol yn bwysig iawn i blant oherwydd nid yn unig y gall leihau’r risg o rai afiechydon ond mae’n cadw pwysau iach i’w cyrff ac o fudd i’w hiechyd meddwl.
Felly brysiwch, mae ein cynnig cyfyngedig dim ond yn para o’r 19.02.22 – 27.02.22!
Mae rhan fwyaf helaeth o’r gweithgareddau ar gael am ddim yn ein safleoedd ar draws Gwynedd gyda sesiynau yn amrywio o ganolfan i ganolfan!
Dyma linc i chi allu gweld y gweithgareddau rydym yn ei cynnal yr Hanner Tymor yma:
Gweithgareddau Hanner Tymor Chwefror 2022
Archebu:
Bydd modd archebu lle ar gyfer y sesiwn 10 diwrnod o flaen llaw a gallwch archebu lle drwy ffonio neu archebu ar-lein.