Musicfest

23 Gorffennaf 2022 – 30 Gorffennaf 2022

Pas yr Ŵyl: £200 Pas Cynnar a brynir cyn 1 Gorffennaf: £180 Pas cyngherddau’r hwyr: £150 Cyngherddau cerddorfaol: £25 (£23) Cyngherddau’r hwyr: £20 (£18) Cyngherddau amser cinio: £10 (£8)

Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf – Dydd Sadwrn 30 Gorffenaf 

Cyfarwyddwr Artistig – David Campbell  

Mae ein gŵyl ac ysgol haf ryngwladol flynyddol o gyngherddau a difyrrwch yn dychwelyd gyda rhaglen eithriadol.  Dyma ŵyl sy’n cefnogi rhagoriaeth mewn dysgu a pherfformio ac mae’n cynnig cyfle unigryw i ymgysylltu â gweithiau newydd yn ogystal â’r repertoire sefydledig. Mae’n cynulleidfa yn dychwelyd blwyddyn ar ôl blwyddyn i fwynhau cerddoriaeth o’r safon uchaf.  

Bydd yr ŵyl yn agor gyda chyngerdd ysblennydd gan y Gerddorfa Ffilmarmonig Frenhinol yn nodweddu Guy Johnston yng Nghoncerto Sielo Elgar a Symffoni rhif 4 Brahms.  

Ymysg yr uchafbwyntiau cerddoriaeth siambr niferus ceir Pedwarawd Sacconi yn perfformio’r Death and the Maiden dramatig gan Schubert a Phedwarawd Solem yn perfformio rhagen arbrofol yn cynnwys Pedwarawd rhif 3 Bartok a’r Grosse Fuge grymus gan Beethoven. Wedyn daw’r pedwarawdau at ei gilydd i berfformio Wythawd Mendelssohn.

Bydd y mezzo soprano Maria Hegel yn perfformio Dichterliebe Schumann a cheir cyfle i glywed Pedwarawd Llinynnol diweddaraf John Metcalf – Towards Silence.  

Bydd y cyngerdd terfynol yn nodweddu Concerto Clarinet Mozart yn dathlu perfformiad olaf David Campbell fel Cyfarwyddwr Artistig ac ymddangosiad cyntaf Catrin Finch fel y Gyfarwyddwraig Artistig newydd yng Nghoncerto Ffliwt a Thelyn Mozart.   

Gweler manylion llawn o’r rhaglen ar wefan Musicfest: www.musicfestaberystwyth.org  

Pas yr Ŵyl: £200 

Pas Cynnar a brynir cyn 1 Gorffennaf: £180 

Pas cyngherddau’r hwyr: £150 

Cyngherddau cerddorfaol: £25 (£23) 

Cyngherddau’r hwyr: £20 (£18) 

Cyngherddau amser cinio: £10 (£8)  

Dolenni Tocynnau Isod 

Nos Sadwrn 23 Gorffennaf Cyngerdd Gala Agoriadol – Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, o dan arweiniad Alpesh Chauhan Gyda Guy Johnston (sielo) 

Dydd Sul 24 Gorffennaf Datganiad amser cinio – Kyle Horch, (sacsoffon) gydag Anya Fadina (piano)Cyngerdd yr Hwyr – Guy Johnston (sielo) gyda Karen Jones (ffliwt) ac Edward Leung (piano) 

Dydd Llun 25 Gorffennaf Datganiad amser cinio – Anthony Friend (clarinet) gydag Edward Leung (piano)Cyngerdd yr Hwyr – Pedwarawd Solem gydag Ayanna Witter-Johnson (cyfansoddwraig/sielo/llais) 

Dydd Mawrth 26 Gorffennaf Datganiad amser cinio – Deuawdau Piano – Libby Burgess ac Anya FadinaCyngerdd yr Hwyr – Er Cof am Peter Kingswood 1934-2021 

Dydd Mercher 27 Gorffennaf Datganiad amser cinio – Rhaglen i’w chadarnhauCyngerdd yr Hwyr – Pedwarawd Sacconi gyda David Campbell (clarinet) a Guy Johnston (sielo) 

Dydd Iau 28 Gorffennaf Datganiad amser cinio – Maria Hegele (mezzo-soprano) Libby Burgess (piano)Cyngerdd yr Hwyr – Sigyn Fossnes (feiolin) Graham Oppenheimer (fiola) Kari Ravnan (sielo) Anya Fadina (piano)  Simon Lane (piano) 

Dydd Gwener 29 Gorffennaf Datganiad amser cinio Artistiaid Ifanc  – Tomas Boyles (piano)Cyngerdd yr Hwyr – Maria Hegele (mezzo-soprano) Pedwarawd Solem David Campbell (clarinet)  Simon Lane (piano) 

Nos Sadwrn 30 Gorffennaf Cyngerdd yr Hwyr – Sinffonia 1 o dan arweiniad Toby Purser – Catrin Finch (telyn) Karen Jones (ffliwt) Maria Hegele (mezzo-soprano) David Campbell (clarinet)