Protest: Llais y Bobl

12:00, 24 Medi 2022

Cic-Owt i Gefn Gwlad ac i’r Celfyddydau

Protest gyhoeddus yn erbyn BBC Radio Cymru i’w chynnal yn Aberystwyth am 12yp ar y 24ain o Fedi 2022

Mae dros 1,900 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu penderfyniad y BBC i waredu rhaglen Geraint Lloyd – un o’r rhaglenni prin sydd â chyflwynydd sy’n siarad â’r bobl, yn nabod ei gynulleidfa ac sy’n cysylltu pobl â’i gilydd. Yn ôl Dafydd Iwan:

“Mae Geraint yn un o’r lleisiau diffuant hynny sy’n taro deuddeg gyda’n diwylliant gwledig ni fel Cymry.”

Mae cannoedd os nad miloedd o bobl yn teimlo’n ddig iawn am y penderfyniad ond yn fwy na dim maent yn mynd i deimlo’r golled fwy nag erioed.  “Dyw Geraint Lloyd ddim dim ond yn gyflwynydd gwych ond mae’n gwmni triw a ffyddlon i gannoedd o bobl bob nos.” Yn ôl un o’r gwrandawyr:

“Dyma raglen safonol sy’n gwmni arbennig i gymuned eang ac amrywiol gan gynnwys pobl sy’n unig ac yn fregus. Mae’r rhaglen yn drysor i’w gwrandawyr – gweithwyr oriau anghymdeithasol, mamau i blant bach, pobl ifanc ac oedrannus hefyd. Cysur o raglen i gynifer o bobl!

Yn ôl gwrandäwr arall “Fy hunan, byddaf yn ei debygu i Dai Jones, yn adnabod y Gymru wledig, yn sicr yr ardaloedd gorllewinol a gogleddol, ac yn cyfleu naws â’r hyn sydd yn bwysig i fywyd pob dydd yr ardaloedd hynny. Ia wir colled fawr, a braf fyddai cael datganiad swyddogol i egluro’r rhesymeg.”

Nid yn unig rhaglen Geraint sy’n cael y fwyell ond Mae ‘Stiwdio’ hefyd, yr unig raglen sydd yn ôl Jeremy Turner o Theatr Arad Goch yn “trafod y celfyddydau yn benodol ac yn mynd i’r afael â dyfnder y celfyddydau” hefyd yn cael ei thorri o amserlen Radio Cymru. 

Penderfyniad  a wnaed heb unrhyw fath o drafodaeth nag ymgynghori gyda’r cyflwynwyr na’r timoedd cynhyrchu yw hyn. Penderfyniad llond llaw o bobl yn y BBC yng Nghaerdydd ac nid penderfyniad y bobl, y cannoedd sy’n gwrando ar hyd a lled y wlad.  

Cymaint yw’r gwrthwynebiad erbyn hyn y mae yna brotest gyhoeddus yn mynd i gael ei chynnal i ddangos yr anfodlonrwydd i’r penderfyniad ffôl ac annheg yma gan y BBC yn Aberystwyth am 12y.p ddydd Sadwrn 24ain Medi  – Trefnwch fysys o’ch ardal chi a dewch gyda’ch gilydd i gefnogi!

Galwn ar olygydd Radio Cymru i ddod ymlaen a rhoi atebion i’r gwrandawyr.