Taith Gerdded Y Garn ag Elidir Fawr

09:00, 24 Ebrill 2022

£35

Taith gerdded ar gylchdaith Marchlyn, ond gyda ychwanegu Y Garn i’r daith hefyd! 

Cychwyn a gorffen ar y ffordd Llyn Marchlyn uwchben Deiniolen, dringo y ffordd at y Llyn cyn dringo am Carnedd y Filiast, Mynydd Perfedd ag ymlaen am Y Garn. Yna dychwelyd yn ol am Elidir Fawr a lawr am Elidir Fach. 

Taith o tua 15km (9 milltir) 975 metr o ddringo.

Taith heriol ond yn addas i unrhyw un, mi fyddwn yn cadw ar gyflymder fydd yn addas i bawb. 

Cynnig arbennig – i dderbyn 30% i ffwrdd, defnyddiwch côd – Bro360