Ymarfer cynta nôl – côr SATB Tregaron a’r cylch

19:30, 15 Chwefror 2022

Dewch i ni ailgydio yn ein côr ardal Tregaron a’r cylch!

Ailgychwyn nos Fawrth 15 Chwefror yng Nghapel Bwlchgwynt, Tregaron am 7:30pm.

Holwn i bawb gwneud prawf llif (Lft) cyn dod, gwisgo mwgwd wrth gyrraedd ac yna byddwn yn barod i ganu.

Does dim ots os na fuoch o’r blaen gan taw darnau newydd fydd ganddon ni… rhai ysgafn a hwylus… grêt i godi canu! Mae’r drysau ar agor i’r criw ifanc hefyd 16 oed +

Dewch – mae’n gyfnod cyffrous yn ein cylch!