Gig Ynys + Bitw

19:30, 17 Tachwedd 2022

£10

Mae Gigs Cantre’r Gwaelod yn ôl ac mae gyda ni wledd i’ch clustiau unwaith yn rhagor wrth i ni ddathlu rhyddhau albwm gyntaf YNYS a’u pop seicedelig, cyfoethog – cefnogaeth gan BITW.

YNYS yw prosiect cerddorol Dylan Hughes o Aberystwyth, gynt o’r band pop seicedelig Race Horses. Mae ei LP cyntaf yn ddychweliad eofn i’r sîn. Mae seinfwrdd mentrus yr albwm yn ein cludo o ‘power pop’ Big Star i Beach House gyda llinynnau sinemataidd, syntheseinyddion diddorol o 1981 a geiriau sydd yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae llawer o’r caneuon yn reslo gyda symudiad Hughes yn ôl i Aberystwyth o Gaerdydd; y filltir sgwâr, dinas i’r wlad, y syniad o fwrlwm llewyrchus y ddinas a heddwch ei gartref glan môr a gwledig. “Symud ymlaen ond ceisio mynd yn ôl i rywle,” meddai.

Bydd albwm YNYS yn cael ei ryddhau ar Recordiau Libertino Tachwedd 4ydd ac mi fydd ar werth ar y noson gyda mwy o nwyddau trawiadol i’ch temtio.