Cwis Chwe Gwlad y Vale – Ffrainc

20:00, 16 Mawrth 2023

Cwis byr am Ffrainc, chwaraeon ac ambell beth arall!

Keith Henson sy in charge o’r cwis yma (Duw â’n helpo ni) – y bumed mewn cyfres o cwisys ar nosweithi Iau cyn gemau rygbi Cymru.

Bydd ein gwrthwynebwyr (Ffrainc, wthnos ma) yn whare rhan mewn rownd ne ddou, ond gallai gweddill y cwestiynau fod yn bach o bopeth!

Bydd person neu cwpwl gwahanol wrth y llyw bob tro hefyd. Felly os bydd cwestiynau Iwan rhy anodd (neu rhy rhwydd!), sdim ots achos bydd rhywun arall yn creu’r un nesa!