Pererindod Bro Ogwen

10:00, 14 Mai 2023

Mae Sul y Gweddiau yn ddiwrnod draddodiadol ym mywyd yr eglwys- cyfle i weddio a gofyn am fendith ar y tir, y cnydau a’r gymuned. Roedd offeiriad y plwyf yn cerdded o amgylch ffiniau’r plwyf ac yn arwain y bobl mewn gweddi ac yn bendithio’r tir. Fel Caplan Bro rwyf am cerdded yn ol traed ein cyndeidiau a gwneud bererindod o gwmpas Fethesda- gan gynnwys Gerlan, Carneddi, Rachub, Llanllechid, Tregarth, Sling a Mynydd Llandegai. Mae groeso i unrhyw un ymuno â fi am y daith cyfan neu ddim ond am rhan ohoni. Cychwyn o Eglwys Crist, Glanogwen am 10o’r gloch. Dewch â ddigon o ddwr, pecyn bwyd a sgidia call! Os oes ganddoch englyn, gweddi, darn o farddoniaeth addas hoffech ei rannu gyda ni wrth i ni stopio ym mhob cynefin, fysa hyny’n hyfryd.