AR (AG)OR …. Inois ar agor sesiwn 1

12:00, 13 Gorffennaf

Am Ddim

Cyfres o 6 stiwdio agored misol i bobl ifanc ac artistiad lleol fydd yn cael ei gynal gan Hedydd Ioan (SKYLRK) Cyfle i ddysgu, rhannu a chreu diwylliant y dyfodol . Cyfrawnwyr gweithdai cydd pob sesiwn 

Mae INOIS AR AGOR yn gydweithrediad newydd rhwng y label annibynol INOIS ac
yr Oriel a’r Amgeddfa, Storiel ym Mangor fydd yn cynal sesiynau misol yn agor y
drws i’r broses greadigol wrth fod yn ofod stiwdio agored i artistiad a bobl ifanc.
Unwaith y mis bydd y caffi yn Storiel ar agor i bawb am brynhawn wrth i INOIS
gymryd drosodd. Fydd y prynhawniau yma’n gyfle i greu, trafod a dysgu. Bydd
INOIS yn dod a offer stiwdio ac yn gwahaodd artistaid i weithio ar ei cerddoriaeth
ond fydd y drws hefyd yn hollol agored i unrhywun sy’n dod mewn, sydd eisio
gweithio ar ei celf, sydd eisio panad neu hyd yn oed dim ond eisiau gael golwg ar yr
holl gynwrf sy’n mynd ymlaen.
Fydd INOIS AR AGOR yn ofod fydd yn cael ei ffurfio gan y bobl sydd yn troi fyny
bob mis ac cael ei arwain gan dyheadau y bobl yna. Pwy a wyr be fydd yn cael ei
greu? Album newydd? Artist Newydd? Neu efallai dim ond sgwrs fydd yn egin i
berson ifanc ddechrau mynd ar ôl ei syniadau creadigol.
Fydd y sesiynau yma’n gyfle i rannu, i wrando, i greu ac yn bwysicach byth yn ofod
fydd – ar agor – i bawb