Ballet Cymru: Daydreams and Jellybeans

18:00, 30 Tachwedd

£16 / £14

Addasiad rhyfeddol o gerddi ysbrydoledig o gasgliad cyntaf Alex Wharton o farddoniaeth i blant.

Mae’r cynhyrchiad dawns disglair hwn yn arddangos doniau Alex Wharton ei hun, gan ddarllen, rapio, ac odli ei ffordd trwy anturiaethau direidus, synfyfyrio melancolaidd, a drama Jellybean.

Ceir bale rhagorol wedi’i fwriadu ar gyfer yr ifanc, a’r ifanc eu hysbryd, gyda dawnswyr syfrdanol a cherddoriaeth gan y cyfansoddwr rhyngwladol Frank Moon. Mae Ballet Cymru yn gwmni bale teithiol rhyngwladol i Gymru. Mae wedi ymrwymo i gynhwysiad ac arloesi mewn dawns a bale clasurol, ac i’r safon uchaf o gydweithio. Nod ei raglen mynediad ac estyn allan helaeth yw cael gwared ar rwystrau a gwneud y celfyddydau’n hygyrch i bawb.

Gyda BSL wedi’i integreiddio a Awdio Disgrifiad Saesneg yn y perfformiad

Oed: 6+