“Brangwyn Y Gwneuthurwr Printiau” Darlith gan Jeremy Yates

14:00, 5 Gorffennaf

Am Ddim

I cyd fynd hefo arddangosfa MEWN PRINT: SYR FRANK BRANGWYN RA (1867 – 1956) bydd cyfres o dair darlith fydd yn rhoi golwg manwl ar fywyd a gwaith y dyluniwr Frank Brangwyn. Yn yr ail or  gyfres bydd Jeremy Yates yn trafod ei waith dyluniol  dros nifer o gyfryngau.

Ganed Brangwyn yn Bruges, ac fe fu’n byw ac yn gweithio yn y DU fel darlunydd, peintiwr, murluniwr, dyluniwr dodrefn, tecstilau a serameg. Hefyd, roedd Brangwyn yn wneuthurwr printiau cynhyrchiol: gweithiodd yn bennaf ar ysgythru, lithograffi ac engrafu pren. Bu’n arddangos ym Mhrydain, America ac ar draws Ewrop gyfan; cafodd ei anrhydeddu gan nifer o sefydliadau a chyrff amrywiol; cafodd ei ethol yn aelod o’r Academi Frenhinol ac yn 1952, ef oedd yr artist byw cyntaf i arddangos ei waith fel arddangosfa un person.