Caffi Colled: Tymor yr Hydref

13:00, 16 Medi 2024

Tymor newydd y grwp galar, Caffi Colled: gofod ddiogel i rannu ein profiadon, cefnogi ein gilydd- a cael hwyl!

Rydym yn cwrdd dwywaith y mis- Llun 1af a 3ydd, rhwng 1o’r gloch a 3 o’r gloch. Y Llun 1af, fel arfer, rydym yn aros yn Gorffwysfan, gyda phaned a chacen a sgwrs. Ar y 3ydd Llun rydym yn mynd allan i wahanol lefydd diddorol. 

Mae ’na groeso i unrhyw un ymuno ar unrhyw adeg- faint pa mor bell yn ol oedd y golled, mae’r galar yn medru bod yn rhywbeth hirdymor. Rydym yn ceisio darganfod ffordd o byw bywyd heb ein anwyliaid- bywyd gwahanol, ond dal yn medru bod yn dda a llawn. 

am fwy o fanylion, cysylltwch â: Parch Sara Roberts, Caplan Bro Ogwen ar 07967652981 neu sararoberts@churchinwales.org.uk