Cofnodi 150 mlynedd sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

13:30, 27 Ebrill

Ymunwch a ni yn ar ddydd Sadwrn, Ebrill 27 yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, i nodi a dathlu 150 mlynedd ers sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.

Bydd yr Athro R. Merfyn Jones yn traddodi darlith ‘Undeb y Chwarelwyr: 1874-2024’ am 1.30yh yn yr Amgueddfa. 

Bydd hefyd cyfle i weld dogfennau gwreiddiol yr Undeb sydd fel arfer ar gadw yn Archifdy Caernarfon. 

Am 3pm bydd cyfle i ymuno mewn taith gerdded ar hyd y llyn o’r amgueddfa i Graig yr Undeb, gyda baner arbennig i ddathlu hanes yr undeb, wedi ei chreu gan fyfyrwyr a disgyblion o’r ardal, a chyfranogwyr mewn gweithdai cymunedol yn Llanberis a Bethesda.

Traddodir y ddarlith drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae tocynnau AM DDIM ond rhaid bwcio ymlaen llaw drwy (01286) 679095 neu ebostio  archifau@gwynedd.llyw.cymru.

Digwyddiad ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru a Cyngor Gwynedd / LlechiCymru

Dilynwch y linc yma am fwy o wybodaeth ynglyn â gweithgareddau i ddathlu Penblwydd 150 oed Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru 

https://amgueddfa.cymru/llechi/digwyddiadau/12231/Sesiynau-creu-baneri-i-ddathlu-penblwydd-150-oed-Undeb-Chwarelwyr-Gogledd-Cymru-/?