Croesi Ffiniau

19:00, 12 Gorffennaf

£5-£23

Cymerwch sedd ac ymunwch â Cherddorfa WNO a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus wrth iddynt gychwyn ar daith gyffrous trwy rai o gampweithiau gorau Canol Ewrop, gan ddechrau gyda’r Agorawd fuddugoliaethus o The Bartered Bride gan Smetana. Gan ddathlu’r balchder cenedlgarol a ysgogodd yn Tsiecia yn y 19eg ganrif, mae’r darn yma’n llawn egni ac elfennau gwerin rythmig.

Yn dibynnu ar ble y byddwch chi’n mynychu’r gyngerdd, byddwch naill ai’n teithio tua’r gorllewin i’r Almaen ac yn cael eich cyfareddu gan y Concerto Almaenaidd gorau a gyfansoddwyd erioed ar gyfer y feiolin, sef Concerto Feiolin Beethoven; neu byddwch yn teithio tua’r de i Awstria, lle cewch fwynhau telynegiaeth a deialog ddifyr Concerto i’r Clarinét mewn A Fwyaf Mozart*.

I ddod â’r daith i ben, profiad ymdrwythol ym myd Rhamantiaeth yr Almaen. Mae Symffoni Rhif 4 Schumann yn un ddrama barhaus sy’n cynnwys cymalau dwys a myfyriol ac egni cynyddol, wedi’i drwytho â’r ‘Thema Clara’ enwog, er anrhydedd i’w wraig.

#WNOorchestra

* Bydd y rhaglen yn amrywio o leoliad i leoliad. Yn Aberhonddu, Aberystwyth a Southampton, bydd y rhaglen yn cynnwys Smetana, Beethoven, Schumann a’r unawdydd David Adams. Ym Mangor, Caerdydd a’r Drenewydd, bydd y rhaglen yn cynnwys Smetana, Mozart, Schumann a’r unawdydd Thomas Verity.