Cydnabod dy Sgiliau, yng Nghwmni Angharad Harding

09:30, 6 Tachwedd 2024

Am ddim

Cydnabod dy sgiliau, yng nghwmni Angharad Harding

Yn y camau cynnar o adeiladu busnes, mae deall a defnyddio eich sgiliau allweddol yn hanfodol i lwyddiant. Mae’r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar helpu i adnabod eich cryfderau a dysgu sut i’w defnyddio’n effeithiol mewn amgylchedd busnes.

Cyfle i rwydweithio yn y Gymraeg gydag unigolion yn y byd busnes. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Dyddiad: Dydd Mercher, 6ed o Dachwedd 2024

Amser: 9:30yb – 11:30yb

Lleoliad: Llety Cynin, Sanclêr

Mae’r sesiynau yma yn cael ei ariannu drwy brosiect Llwyddo’n Lleol sy’n rhan o Raglen ARFOR. Mae ARFOR yn rhaglen sy’n cael ei ariannu drwy Llywodraeth Cymru drwy’r cytundeb cydweithredol a Phlaid Cymru. Mae’n raglen ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.

Un o brosiectau Rhaglen ARFOR yw Llwyddo’n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymunedau cynhenid. Mae prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 yn cael ei weinyddu ar y cyd gan Mentera a Menter Môn.