Nos Sadwrn, yr 21ain o Ragfyr, am 7.30pm, cynhelir noson o eitemau cerddorol amrywiol yn Eglwys Crist, Y Bala, er budd Cerebral Palsy Cymru a Shelter Cymru. Dilwyn Morgan fydd wrth y llyw gan gyflwyno perfformiadau gan y cantorion Branwen Medi Jones, Cadog Edwards, Elain Iorwerth, a Huw Ifan; Cadi Glwys Davies ar y delyn deires, Lea Roberts ar y clarinet, a Gruffudd ab Owain ar y piano; rhain i gyd o dan 20 oed ac wedi profi llwyddiant cenedlaethol eleni. Tocynnau’n £10, neu £5 i’r rhai 18 oed ac iau, ar gael o Awen Meirion, Y Bala; Siop Glyndŵr, Trawsfynydd; Siop Elfair, Rhuthun; Siop Cwlwm, Croesoswallt; neu ar www.dolig.eventbrite.com.