Cyngor ar eich biliau ynni

12:00, 27 Awst

Am ddim

Angen cyngor ar sut i leihau eich biliau ynni neu gwneud eich tŷ yn fwy effeithlon?

Bydd Swyddogion Ynni DEG yn Porthi Dre ar y dyddiau canlynol o 12 – 1:30yh:

Awst 27

Medi 24

Hydref 29

Tachwedd 26

Dewch draw am sgwrs, ac ewch a phecyn arbed ynni a bwlb LED hefo chi! 

Mae Swyddogion Ynni DEG yma i’ch helpu drwy:-

  • Godi ymwybyddiaeth o fanteision arbed ynni
  • Roi cymorth ymarferol ar leihau costau a defnydd o ynni yn y cartref
  • Rhoi cyngor i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi
  • Cynhori pa grantiau sydd ar gael-ddarparu offer arbed ynni (er enghraifft bylbiau LED)
  • Rhoi’r cyfle i bawb sydd yn gymwys i ymunno a’r rhestr gwasanaeth a blaenoriaeth gyda’u cyflenwyr dŵr, trydan a nwy.

Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu os hoffech drefnu apwyntiad gyda Swyddog Ynni naill ai dros y ffôn neu yn eich cartref, cysylltwch â ni ar ynni@deg.cymru neu 07495237679.

Menter gymdeithasol yw DEG sy’n cefnogi gweithredu cymunedol ar hyd a lled gogledd orllewin Cymru, wedi ei leoli yn Nghaernarfon. Rydym yn ymdrechu i gynyddu gallu ein hardal i ddelio gyda’r cynnydd yng nghost tanwydd ffosil, ac i wella ein amgylchedd naturiol a symud tuag at gymunedau di-garbon.

Mae’r cyngor ym Mhorthi Dre yn cael ei gynnig fel rhan o Brosiect Sero Net Gwynedd, sydd yn cynnig cymorth i bobl i leihau eu ôl troed carbon a’i biliau ynni. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig asesiadau ynni ar adeiladau cymunedol, yn arwain at greu adroddiad ddigarboneiddio.