BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN

15:30, 31 Mai

Am Ddim

Cynhyrchiad newydd o un o glasuron Arad Goch! Mae BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN yn ddrama ryngweithiol i blant bach 3-9 oed a’u teuluoedd (gall plant iau ddod gyda’r teuluoedd hefyd) sydd yn cynnwys rhai elfennau o Iaith Arwyddion Prydain (BSL). 

Gan ddechrau y tu allan, neu yng nghyntedd y theatr/neuadd, mae’r gynulleidfa yn symud i ofod caeëdig, tawel a diogel ble maen nhw’n helpu’r cymeriadau i greu cartref newydd gyda deunyddiau naturiol – dail, brigau a pren. 

Mae’n ddrama hwyliog a cherddorol, weithiau’n ddoniol a dro arall yn ymdrin ag emosiynau plant, gyda themâu am gyfeillgarwch, cydweithio a gofal – gan annog y plant i fynd ati i fod yn greadigol yn eu ffordd eu hunain. 

Am fwy o wybodaeth ewch i  https://www.storiel.cymru/

Arianwyd trwy gronfa Ffyniant Bro Gwynedd