DEFNYDDIO’R GYMRAEG AR EICH CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

18:30, 21 Hydref

Ydych chi angen mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol yn llwyddiannus?

Mae Clwb Rygbi Llanbed yn trefnu sesiwn ar ddefnyddio Cymraeg ar y Cyfryngau Cymdeithasol mewn cydweithrediad gyda Undeb Rygbi Cymru. Bydd Owen Williams o gwmni Siml yn arwain y noson.

Mae’r Clwb yn croesawu y noddwyr, mudiadau a busnesau yn y gymuned i’r digwyddiad.

Mae’r noson ar nos Lun, 21 o Hydref. Bydd yn dechrau am 6:30 pm a bydd bwffe ysgafn ar gael i chi.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd felly plîs cysylltwch gyda Gwyn Derfel i archebu lle ar gderfel@wru.wales.