Y Dewis

19:30, 4 Mai

£14/£12

Gêm lawn dewisiadau yw bywyd.

Crëwyd a chyfarwyddwyd gan Gwyn Emberton.

Profwch y gêm sinematig lle mai chi sy’n dewis sut y bydd y stori’n mynd, yng nghanol Bangor.

Ymunwch â’n gwesteiwyr, cyflwynydd byw a’r llefarwr ar y sgrin, Natura. Gyda’i gilydd fe fyddant yn eich cludo o amgylchedd cyfarwydd Bangor i ben clogwyni epig Ynys Môn. Yno, bydd pedwar person ifanc, pob un â’i stori i’w dweud, yn cyfarfod yng ngwaith brics hardd, adfeiliedig Porth Wen.

Mack eisiau dim byd mwy na bod yn fo ei hun. Wedi ei ddychryn gan brofiadau blaenorol pan ddatgelodd ei wir bersonoliaeth, mae’n teimlo ei fod yn cael ei gyfyngu gan gymdeithas a’r bobl o’i gwmpas.

Ez yn ddryslyd am sut i fod yn ddyn ifanc mewn cymdeithas sy’n ei orfodi i ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae’n ysu am gael ei hoffi ond mae’n gweld ei hun yn baglu trwy ei gysylltiadau â phobl.

Indy yn galw ei hun yn ffeminist gwael, ond nid hi sy’n ei gwneud hi felly. Mae’r syllu didrugaredd o’i chwmpas yn gwneud iddi stopio ei hun o hyd.

Ieua yn dioddef o orbryder eithafol a phroblemau iechyd meddwl eraill. Gall fod yn obsesiynol ac mae’n poeni bod hyn yn gwneud i bobl droi cefn arni. Ond allith hi ddim helpu’r peth. A gyda chymorth y Cyflwynydd, chi sy’n cael dewis sut y bydd stori pob un ohonynt yn datblygu. Bydd y dewisiadau y byddwch chi’n eu gwneud ar y cyd yn synnu pob un ohonynt. Pwy ŵyr? Chithau hefyd efallai.

Ysbrydolwyd y profiad newydd hwn gan Jones y Ddawns, gan storïau pobl ifanc ar draws Cymru, yn archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn ceisio deall nhw eu hunain yn y byd sydd ohoni heddiw. Mae’r ffilm yn bersonol, ac eto yn epig a sinematig, gan blethu Saesneg, Cymraeg a BSL. Gyda’i chymysgedd o ddawns a stori, y cyfan ar gefnlen naturiol eithriadol sy’n cwmpasu gorffennol diwydiannol, mae’n ddathliad o Gymru, dawns Cymru a gobaith pobl ifanc.