Disgo tawel Nadolig ym Mhlas Newydd

11:00, 30 Tachwedd 2024 – 15:00, 29 Rhagfyr 2024

Plas Newydd, Silent Disco

Gwisgwch eich esgidiau dawnsio’r Nadolig hwn. Mae gwahoddiad i bawb i ddisgo tawel yn yr Ystafell Gerdd ym Mhlas Newydd.

Dros 100 mlynedd yn ôl fe wnaeth yr ‘Ardalydd y Ddawns’, sef 5ed Marcwis Môn gynnal ei barti Nadolig ei hun yn yr union ystafell hon. Efallai bod ein dull o ddawnsio wedi newid ond mae’n dal i fod yn lle gwych ar gyfer dawnsio. Felly gwisgwch eich dillad parti gorau a dewch i ymuno â ni’r Nadolig hwn. O gerddoriaeth bop y 90au i ffefrynnau Nadolig y teulu, dewch â’ch clustffonau a dewiswch eich sianel gerddoriaeth cyn i chi ymgolli mewn dawns drwy’r dydd.