Dros Heddwch

15:30, 21 Rhagfyr

am ddim

Dewch i ganu carolau wrth y Bandstand yn Aberystwyth bnawn Sadwrn 21ain Rhagfyr 3.30pm – 4.30pm. Bydd Côr Gobaith yn canu caneuon heddwch ac Eurig fardd yn cyflwyno cerdd neu ddwy. Hefyd bydd Band Twmpath Aberystwyth yno o tua 2.30 ymlaen. Gall plant ddod â ‘tokens’ / negeseuon bach i hongian ar goeden heddwch y plant neu o gwmpas y carped heddwch. Rydym yn meddwl yn arbennig am bob plentyn sydd wedi cael ei ladd, yn amddifad, sydd yn dioddef mewn unrhyw ffordd ym mhob rhyfel ac anghydfod creulon ar draws y byd. Byddwn yn casglu at UNRWA (arian parod yn unig).
Croeso i bawb! – dewch â chanhwyllau a’ch lleisiau, a heddwch yn eich calonnau.

Trefnwyd gan Heddwch ar Waith
*****************************************